Written by students who passed Immediately available after payment Read online or as PDF Wrong document? Swap it for free 4.6 TrustPilot
logo-home
Document preview thumbnail
Preview 2 out of 6 pages
Exam (elaborations)

fy nodiadau adolygu "Walkers Wood"

Document preview thumbnail
Preview 2 out of 6 pages

nodiadau adolygu "Walkers Wood"

Content preview

Walkers’ Wood gan Myrddin ap Dafydd



Mae twristiaeth yn rhan bwysig iawn o ddiwydiant Cymru. Mae nifer o
drigolion pentrefi fel Betws-y-Coed yn dibynnu ar dwristiaeth ar gyfer eu
bywoliaeth. Ond, yn ogystal â gwario eu harian yma, mae’r bardd yn dweud
fod twristiaid a’r mewnfudwyr hefyd yn llygru’r gwlad trwy adael sbwriel ar
eu holau. Mae’r bardd hefyd yn anhapus bod yr ymwelwyr wedi rhoi enw
Saesneg ar y lle.

- Neges:

Trwy roi teitl Saesneg i’r gerdd mae’r bardd yn tynnu ein sylw yn syth at y
ffaith bod rhywbeth o’i le. Nid yw’r teitl Saesneg yn cydfynd gydag iaith y gerdd ac
yn yr un modd, nid yw’r enw Saesneg yn perthyn yn yr ardal Gymraeg hon.

 Bardd gwladgarol yw Myrddin ap Dafydd, ac mae hyn yn cael ei amlygu yn y
gerdd “Walkers’ Wood” yn ei ddicter tuag at dwristiaid sy’n newid yr ardal er
gwaeth. Mae’n cyfleu’r pellter rhyngddo ef a’r cerddwyr trwy eu galw’n
‘rhai’;“Ar ôl y rhai fu’n crwydro Walkers’ Wood.”; mae pellter rhyngddynt gan
taw ymwelwyr i’r ardal ydyn nhw ond hefyd mae eu diffyg parch tuag at
bethau sydd mor werthfawr i’r bardd yn creu pellter rhyngddynt. Mae’r
bardd hefyd yn anhapus gyda’r enw Saesneg “WalkersWood”. Hen achos
cynnen yw newid enwau lleoedd Cymraeg i'r Saesneg. Mae’r drafodaeth
ynghylch y mater hwn wedi bod ar ei chynnydd yn ystod y blynyddoedd
diwethaf, gyda llawer o bobl yn teimlo bod hanes, diwylliant ac iaith Cymru yn
cael eu herydu.

- Themau:

 Bygythiad i’n hetifeddiaeth gan gynnwys ein hiaith; yr ofn o weld ein
hetifeddiaeth yn diflannu o’r tir
 Dylanwadau niweidiol estroniaid / ymwelwyr
 Llygredd; diffyg parch, diystyrwch eraill tuag at Gymru

- Cynnwys:

, Sgwrs naturiol rhwng tad a mab wrth fynd am dro yw’r gerdd. Mae’r mab yn gofyn
cwestiynau am yr hyn mae’n ei weld o’i amgylch ar ddechrau pob pennill ac yna mae’r
tad yn ei ateb yn ail hanner y penillion. Adlewyrchir natur chwilfrydig y mab yn y
cwestiynau niferus yma. Mae’r ffaith fod y bardd yn dewis odli’r gair Cymraeg
‘Taid’ gyda’r gair Saesneg ‘Guide’ yn pwysleisio dylanwad y Saesneg ar y Gymraeg;
hefyd yn nes mlaen odlir ‘mwd’ gyda ‘Wood’. Mae’r lle yn cael ei alw’n ‘Walkers’
Wood’ yn hytrach na ‘Choed Llugwy’ yn y llyfryn ac mae hyn yn brawf pellach o
ddylanwad negyddol y twristiaid ar yr ardal. Mae’r enw ‘Coed Llugwy’ yn ein
hatgoffa mai natur a roddodd yr enw ar y lle hwn yn wreiddiol ond bod rhywun, trwy
geisio cyfieithu’r enw hyfryd hwn, wedi tynnu sylw at ddylanwad dyn ar yr ardal yn
yr enw ‘Walkers’ Wood’. Mae’r enw Cymraeg yn dangos ymfalchiad yn y byd natur
tra bod yr enw Saesneg yn adlewyrchu’r ffaith bod yr ymwelwyr wedi hawlio’r ardal
i’w hunain – yn eu meddyliau nhw eu hardal nhw yw hi nawr fel y cyfleuir gan yr enw
meddiannol “Walkers’”.



Er mwyn cyfleu ei ddicter a’i ddirmyg am y twristiaid sy’n gadael llanastr ar eu
holau, mae’r bardd yn defnyddio geiriau Saesneg; ‘Betws Guide’ a ‘crisps’. Mae’r mab
yn defnyddio’r gair ‘crisps’ er gwaethaf ei ruglder yn y Gymraeg ac mae hyn yn
cyfleu pryderon y bardd ynglyn â thynged ein hiaith. Mae’r defnydd hwn o’r Saesneg
yn darlunio pa mor fregus yw ein hiaith a’n diwylliant dan fygythiad mewnlifiad
parhaus o bobl ddi-Gymraeg sydd ddim o Gymru.

Serch hynny, gallwn ddadlau bod y mab yn cynrychioli gobaith i’r genhedlaeth nesaf,
sy’n awgrym o sicrwydd a hyder i barhad Cymru a’r Gymraeg. Mae’r tad yn llwyddo i
drosglwyddo etifeddiaeth werthfawr i’w fab trwy gyflwyno enwau hardd y coed
iddo yn y Gymraeg. Mae perthynas agos y tad a’r mab yn cael ei phwysleisio wrth i’r
bardd ailadrodd y gair ‘Dad’ ar ddiwedd pob cwestiwn y mae’r mab yn ei ofyn.




Mae ‘llugwy’ yn dod o’r gair ‘llug’ sy’n golygu golau. Yr un gair yw â ‘lux’ (Lladin). Mae’n
enw sy’n mynd yn ôl ganrifoedd. Enw ar yr afon yw Llugwy, a'r enw hwnnw yn ei dro
wedi rhoi enw i’r coed.

Document information

Study
School year
2
Uploaded on
January 4, 2024
Number of pages
6
Written in
2023/2024
Type
Exam (elaborations)
Contains
Questions & answers
$6.40

Wrong document? Swap it for free Within 14 days of purchase and before downloading, you can choose a different document. You can simply spend the amount again.
Written by students who passed
Immediately available after payment
Read online or as PDF

Seller avatar
Reputation scores are based on the amount of documents a seller has sold for a fee and the reviews they have received for those documents. There are three levels: Bronze, Silver and Gold. The better the reputation, the more your can rely on the quality of the sellers work.
cerijones
4.2
(6)
Sold
62
Followers
41
Items
478
Last sold
4 months ago



Why students choose Stuvia

Created by fellow students, verified by reviews

Quality you can trust: written by students who passed their tests and reviewed by others who've used these notes.

Didn't get what you expected? Choose another document

No worries! You can instantly pick a different document that better fits what you're looking for.

Pay as you like, start learning right away

No subscription, no commitments. Pay the way you're used to via credit card and download your PDF document instantly.

Student with book image

“Bought, downloaded, and aced it. It really can be that simple.”

Alisha Student

Working on your references?

Create accurate citations in APA, MLA and Harvard with our free citation generator.

Working on your references?

Frequently asked questions