TGAU – LLENYDDIAETH GYMRAEG
Y gerdd
Etifeddiaeth
gan Gerallt Lloyd Owen
Cawsom wlad i’w chadw,
darn o dir yn dyst
ein bod wedi mynnu byw.
Cawsom genedl o genhedlaeth
i genhedlaeth, ac anadlu
ein hanes ni ein hunain.
A chawsom iaith, er na cheisiem hi,
oherwydd ei hias oedd yn y pridd eisoes
a’i grym anniddig ar y mynyddoedd.
Troesom ein tir yn simneiau tân
a phlannu coed a pheilonau cadarn
lle nad oedd llyn.
Troesom ein cenedl i genhedlu
estroniaid heb ystyr i’w hanes;
gwymon o ddynion heb ddal
tro’r trai.
A throesom iaith yr oesau
yn iaith ein cywilydd ni.
, Ystyriwch; a oes dihareb
a ddwed y gwirionedd hwn:
Gwerth cynnydd yw gwarth cenedl,
a’i hedd yw ei hangau hi.
Mae’r llinellau agoriadol yn cyfeirio at frwydr y Cymry
gwlatgar dros y canrifoedd i gadw eu hetifeddiaeth yn fyw ac i
atal y traddodiadau Cymreig rhag ddiflanu o’r tir. Mae’r gair
‘mynnu’ yn atgyfnerthu’r ffaith taw brwydr oedd hi erioed I
gadw ein hetifeddiaeth. Yn y defnydd o’r ferf ‘cawsom’ gwelwn
mor freintiedig yr ydym ac mae’n creu ymdeimlad o
ddyletswydd i warchod a thrysori yr hyn rydyn ni wedi ei gael.
Mae’r bardd yn talu teyrnged i’r genhedlaeth gynt am ein
hetifeddiaeth trwy ailadrodd y ffaith ein bod ni wedi cael
cymaint:
Cawsom wlad...
Cawsom genedl...
A chawsom iaith...
Mae’r gerdd yn ein hatgoffa o eiriau Dafydd Iwan yn y gan
“Gwinllan a roddwyd i’n gofal”
Rydym fel cenedl wedi bod mor freintiedig i gael cymaint o
bethau gwerthfawr ac mae arnom ddyletswydd i ofalu
amdanynt. Mae’r bardd yn cyfleu y ffaith bod y Gymraeg wedi
bodoli ers tro byd gyda’r geiriau “ei hias oedd yn y pridd