Sefydlwyd Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ym 1963 gan Gymdeithas Clwb Cymraeg
Caerdydd fel clwb cymdeithasol cyfrwng Cymraeg. Enwyd y clwb ar ôl Ifor Bach sef
Ifor ap Cadifor neu Ifor Meurig, Arglwydd Senghennydd yn y ddeuddegfed ganrif.
Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
gan Rhys Iorwerth
Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.
Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.
Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi
yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio...
Ym mrad yr edrychiadau, -
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau
yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.
Caerdydd fel clwb cymdeithasol cyfrwng Cymraeg. Enwyd y clwb ar ôl Ifor Bach sef
Ifor ap Cadifor neu Ifor Meurig, Arglwydd Senghennydd yn y ddeuddegfed ganrif.
Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor
gan Rhys Iorwerth
Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.
Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.
Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi
yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio...
Ym mrad yr edrychiadau, -
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau
yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.