TAI UNNOS
Cefndir
Ganrifoedd yn ôl, roedd yn arferiad yng Nghymru i adael i bâr
ifanc tlawd a oedd newydd briodi i adeiladu cartref iddynt eu
hunain ar dir comin, ond roedd yn rhaid cwblhau’r adeiladu
“rhwng gwyll a gwawr.” Byddai’r pentref cyfan yn cynorthwyo’r
pâr ifanc â’r gwaith. Yn ôl yr hanes, roedd yn rhaid dechrau
adeiladu’r tŷ pan fyddai’r haul yn machlud yn y nos a phetai
mwg yn dod o simnai’r tŷ erbyn i’r haul wawrio'r bore canlynol,
ni fyddai hawl gan y landlordiaid i dynnu’r tŷ i lawr a byddai
modd i’r pâr hawlio perchnogaeth ar y darn o dir. Tai syml
oedd y rhain, wedi’u hadeiladu â cherrig, pridd a bôn braich.
“Ar dir comin y codwyd pentref Rhosgadfan, a phan ddechreuodd pobl weithio yn y chwarei,
caeasant ddarnau o'r comin i mewn i adeiladu eu tai, y cabanau unnos i fyw ynddynt...140 o dai a
thri chapel yn Rhostryfan erbyn y flwyddyn 1826... Am y tai, tai bychain iawn oeddynt, tai
unllawr o gegin, ty llaeth neu gilan, dwy siamber a'r gegin, ond newidiwyd hynny a gwneud
pared o goed neu o gerrig. Simdde fawr a oedd iddynt a'i lled yn yn ddigon helaeth i gadair
freichiau. Nid wyf fi'n ddigon hen i gofio'r lle tân hen ffasiwn na'r llawr pridd, ond gadawsid y
twll mawn o dan y simdde fawr yn fy hen gartref i heb ei orchuddio, ac yr oedd yn lle hwylus i
eirio dillad. Erbyn fy amser i yr oedd grât a phopty bach ar un ochr iddo, a boiler a feis i dwymo
dwr poeth ar yr ochr arall. Wrth ochr y boiler yr oedd popty mawr a ymestynnai gryn lathen neu
ragor i'r wal, a lle i roi tân odano. Âi cryn dipyn o lo i dwymo'r popty, ond wedyn gellid rhoi
nifer da o fara i mewn, ac wedi i'r popty dwymo, ni fyddai eisiau llawer o lo arno wedyn.”
(Y Lôn Wen, gan Kate Roberts)
, Tai Unnos
gan Iwan Llwyd
Sbwriel oes yr iâ oedd y cerrig llyfnion
orweddai’n flêr hyd lannau’r afon:
sbarion a shafins cŷn a morthwyl y rhewlif
a siapiodd bob dyffryn ganrif wrth ganrif:
ac â’r sbwriel cododd ein cyndeidiau’n ddyfal
fwthyn clyd yn nhro’r afon, ar seiliau petryal;
gosod carreg ar garreg rhwng gwyll a gwawr,
a chynnau tân cyn i’r landlord dynnu’r cyfan i lawr;
hawlio darn o dir a’i godi’n aelwyd,
drwy nerth bôn braich troi llafur yn freuddwyd:
ar lannau traffyrdd y dinasoedd llwydion,
ac yng nghesail goncrid swyddfeydd gweigion,
dan bontydd ffyrdd osgoi, mewn meysydd parcio mae rhai
yn eu dyblau heno hefyd wrthi’n codi tai,
rhoi trefn ar sbwriel dan y sêr,
hawlio darn o dir â bocsys cardbord blêr.
ailadrodd
Neges
Trwy ailadrodd y geiriau ‘sbwriel’ a ‘blêr’ wrth sôn am y bobl a
fu’n adeiladu tai unnos yn hanner cyntaf y gerdd a’r bobl
ddigartref sydd yn ein dinasoedd heddiw yn ail hanner y
gerdd, mae Iwan Llwyd yn pwysleisio nad oes dim wedi newid