Cymraeg ail iaith
Uned 5 ADRAN A
Y Gymraeg yn y Gymdeithas
. Gall yr arholwr osod cwestiynau yn ymwneud â:
(a) Cyd-destun hanesyddol yr iaith Gymraeg o ganol yr ugeinfed ganrif hyd heddiw e.e.
darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith 1962; y frwydr dros S4C ac ymgyrch Gwynfor Evans;
sefydlu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg; boddi Cwm Tryweryn a'r ymateb iddo; deddfau iaith
1967 a 1993; sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1993; sefydlu Llywodraeth Cynulliad Cymru
yn 1998; polisïau Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r iaith Gymraeg; dogfen bolisi Iaith
Pawb y Cynulliad (2003) a Iaith fyw: iaith byw – strategaeth y Gymraeg 2012-2017; diddymu
Bwrdd yr Iaith Gymraeg a phenodi Comisiynydd y Gymraeg yn sgil Mesur y Gymraeg (2011).
(b) Sefyllfa bresennol yr iaith e.e. beth yw’r heriau sy’n wynebu’r iaith yn genedlaethol ac yn
lleol, beth sy’n cael ei wneud i hyrwyddo’r iaith heddiw a sut mae hyn i’w weld yn yr ardal
leol? Dylid annog disgyblion i edrych ar eu cyd-destun lleol e.e. ymweld â’r Fenter Iaith ac
ymchwilio i waith y Mentrau; mynd i ysgol ddwyieithog / cyfrwng Cymraeg leol i weld beth
sy’n digwydd yno; ymwneud â’r Urdd; menter Twf; yr Eisteddfod Genedlaethol; bandiau
Cymraeg lleol; darpariaeth Cymraeg i oedolion; technoleg a'r Gymraeg; sêr lleol sy'n
hyrwyddo'r iaith.
Sylwadau Arholwr ar atebion i gyn bapur:
“O ran y cynnwys, roedd nifer unwaith eto wedi llwyddo i ymateb i’r tri phwynt bwled a
awgrymwyd yn y cwestiwn. Er nad oedd disgwyl eleni i ymgeiswyr fod wedi astudio
digwyddiadau cyn yr wythdegau, roedd y rhan fwyaf yn gwybod hanesion y Beasleys a Saunders
Lewis. Trafododd y rhan fwyaf o’r ymgeiswyr hanes protestio Gwynfor Evans dros sefydlu S4C.
, Roedd rhai ymgeiswyr hefyd yn trafod ymgyrchoedd penodol gan Gymdeithas yr Iaith, gan
gynnwys ymgyrchoedd cyfredol. Gallai nifer gyfeirio at esiamplau unigolion fel Tudur Owen a
Tony Schiavone. Roedd nifer fach wedi cymysgu hanesion, yn enwedig stori Saunders Lewis a
stori Gwynfor Evans; nodwyd hyn mewn adroddiad blaenorol. Roedd y rhan fwyaf o’r
ymgeiswyr yn ymwybodol o’r deddfau iaith a rôl Comisiynydd y Gymraeg. Roedd dealltwriaeth
rhai o’r ymgeiswyr yn hynod aeddfed a gallent drafod arwyddocâd amrywiol ddeddfau mewn
ffordd wybodus a chelfydd.”
Ar y 13eg o fis Chefror ym 1962, fe gafodd Saunders Lewis yr ysgolhaig,
dramodydd, bardd a gwleidydd, ei wahodd i roi darlith flynyddol y BBC ar y radio.
Tynged yr Iaith oedd y testun ac fe frawychodd y genedl gan y ddarlith hon. Fe
awgrymodd y basai’r iaith Gymraeg yn farw erbyn blynyddoedd cynnar yn yr
unfed ganrif ar hugain. Mae e’n dweud “Iaith ar encil yw’r Gymraeg yng Nghymru
mwaych, iaith lleiafrif a lleiafrif sydd eto’n lleihau.”
Rhoddodd enghreifftiau o bobl bob dydd yn gwneud safiad dros yr iaith Gymraeg,
er enghraifft, teulu'r Beasley o Langennech yn gwrthod talu treth cyngor am wyth
mlynedd gan fod y Cyngor Lleol yn gwrthod cyfathrebu'n swyddogol yn yr iaith
Gymraeg. Mae Saunders Lewis yn dweud “Fe ellir achub y Gymraeg. Y mae Cymru
Gymraeg eto’n rhan go helaeth o ddaear Cymru ac nid yw’r lleiafrif eto’n gwbl
ddibwys. Dengys esiampl Mr a Mrs Beasley sut y dylid mynd ati. Trwy wyth
mlynedd ymdrech Mrs Beasley, un Cymro arall yn y dosbarth gwledig a ofynnodd
am bapur y dreth yn Gymraeg”