Y COED gan GWENALLT
Cerdd i goffáu chwe miliwn o Iddewon a fu farw yn yr Ail Ryfel Byd yw’r gerdd hon.
Delwedd o’r holl Iddewon a fu farw yn y rhyfel yw’r coed gyda phob coeden yn
cynrychioli un Iddew a gafodd ei ladd gan y Natsïaid. Sylwer ar ddefnydd Gwenallt
o’r gair “corff” yn yr ail linell yn hytach na defnyddio geiriau fel Iddew neu person
i’w disgrifio; mae hyn yn ein hatgoffa o sut y triniwyd nhw mor dorcalonnus o wael.
Fe cawson nhw eu di-bersonoli gan y Natsïaid.
Gellir rhannu’r gerdd yn ddwy adran – yn yr adran gyntaf mae Gwenallt yn nodi
ffeithiau hanesyddol. Mae’r gerdd yn agor gyda’r bardd yn cyfeirio at y chwe miliwn
o goed a blannwyd yng Nghaersalem i gofio am yr holl Iddewon a gollodd eu bywydau
yng ngwersylloedd crynhoi’r Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Yn yr ail ran, mae Gwenallt yn datgan yn groyw y byddwn ni'n cael ein beirniadu’n
hallt gan y genhedlaeth nesaf am weithredoedd echrydus yr oes hon. Roedd
Gwenallt yn Gristion i'r carn ac mae hynny'n cael ei amlygu tua diwedd y gerdd yn ei
gyfeiriad at Iesu Grist.
Y gerdd
Y Coed
Gan Gwenallt (David James Jones)
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe’u plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.
Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn, ailadrodd;lludw
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd na wrn. (Ashes;cinders)
Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw, delwedd o
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw. farwolaeth.
Ni chlywem ni na chlychau’r eglwys na mŵesin y mosg, y person sydd yn
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg. galw pawb i ddod
Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân, i weddio 5 gwaith
Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi’r Arabiaid â’u tân. y diwrnod
Pam na ddylai’r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Amân
Fforestydd o goed i gofio?