Y COED gan GWENALLT
Cerdd i goffáu chwe miliwn o Iddewon a fu farw yn yr Ail
Ryfel Byd yw’r gerdd hon. Delwedd o’r holl Iddewon a fu farw
yn y rhyfel yw’r coed gyda phob coeden yn cynrychioli un
Iddew a gafodd ei ladd gan y Natsïaid. Sylwer ar ddefnydd
Gwenallt o’r gair “corff” yn yr ail linell yn hytach na defnyddio
geiriau fel Iddew neu person i’w disgrifio; mae hyn yn ein
hatgoffa o sut y triniwyd nhw mor dorcalonnus o wael. Fe
cawson nhw eu di-bersonoli gan y Natsïaid.
Gellir rhannu’r gerdd yn ddwy adran – yn yr adran gyntaf mae
Gwenallt yn nodi ffeithiau hanesyddol. Mae’r gerdd yn agor
gyda’r bardd yn cyfeirio at y chwe miliwn o goed a blannwyd
yng Nghaersalem i gofio am yr holl Iddewon a gollodd eu
bywydau yng ngwersylloedd crynhoi’r Almaen yn ystod yr Ail
Ryfel Byd.
Yn yr ail ran, mae Gwenallt yn datgan yn groyw y byddwn ni'n
cael ein beirniadu’n hallt gan y genhedlaeth nesaf am
weithredoedd echrydus yr oes hon. Roedd Gwenallt yn Gristion
i'r carn ac mae hynny'n cael ei amlygu tua diwedd y gerdd yn ei
gyfeiriad at Iesu Grist.
Y gerdd
Y Coed
by Gwenallt (David James Jones)
, Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, fe’u plannwyd hwy
Yn goeden am bob corff a losgwyd yn y ffyrnau nwy.
Coed sydd yn estyn eu gwreiddiau i ganol lludw pob ffwrn, ailadrodd;lludw
Y lludw sydd wedi mynd ar goll, heb fynwent na bedd na wrn. (Ashes;cinders)
Chwithig oedd gweled y cangau fel cofgolofnau byw, delwedd o
Ac nid marmor na gwenithfaen, na hyd yn oed yr angladdol yw. farwolaeth
Ni chlywem ni na chlychau’r eglwys na mŵesin y mosg, y person sydd yn
Ond clywed rhwng eu cangau hwy y marwnadau llosg. galw pawb i ddod
Nid yw’r dwylo a’u plannodd yn ddieuog, na’u cydwybod yn lân, i weddio 5 gwaith
Canys diddymodd yr Israeliaid bentrefi’r Arabiaid â’u tân. y diwrnod
Pam na ddylai’r Arabiaid, hwythau, godi yn Cairo ac Amân
Fforestydd o goed i gofio?
Ond ni allwn ni gondemnio’r Natsïaid na’r Iddewon ychwaith
Canys fe droesom o’r awyr Dresden yn un uffern faith; bomiwyd Dresden
A gollwng y ddau fom niwclear ar y ddwy dre yn Japan. ym 1945; lladdwyd
O’r holl ganrifoedd a gerddodd ar y ddaear er cychwyn y byd, degau o filoedd o
Yr ugeinfed yw’r fwyaf barbaraidd ohonynt hwy i gyd. bobl
A bydd y nesaf yn waeth am fod y bomiau a’r rhocedi yn fwy,
A dyfeisir mewn labordai dirgel sawl math o nwy.
A phan ddaw’r trydydd Rhyfel i gadw ei ddychrynllyd oed,
Ni ellir rhifo’r lladdedigion llosg, na rhifo ychwaith y coed.
Chwe miliwn o goed yng Nghaersalem, chwe miliwn, a thair croes,
Ac ar y ganol Yr Unig Un a fu’n byw'r Efengyl yn ei oes.
Daw’r tymhorau i newid eu lliwiau, gwyrdd, melyn a gwyn.
Ond coedwig y marwolaethau’n aros a fyddant hwy, er hyn.
Pan fyddant ymhen blynyddoedd wedi tyfu i’w llawn maint,
Fe wêl y genhedlaeth honno nad oeddem ni yn llawer o saint.
Geirfa:
Chwithig - rhyfedd, od, dieithr
Gwenithfaen – (granite) mae gwenithfaen yn fath o graig tectonig a
ffurfiwyd gan folcanig . Mae’n debyg i farmor; fel marmor mae’n garreg
ddrud a moethus.
Marwnadau -elegies
Diddymodd – chwalu neu difetha; dileu; cael gwared o
Lladdedigion – y rhaid a laddwyd