Ysgrifennu Ymson:
Dweud hanes drwy lygad cymeriad boed hwnnw yn chi eich hun neu yn gymeriad arall yw ymson. Yr hyn
sy’n bwysig wrth ysgrifennu ymson yw bod yr awdur yn mynd o dan groen y person y mae yn ysgrifennu
amdano/amdani. Meddyliwch am yr ymson fel llais mewnol rhywun ar bapur ac o feddwl felly am y ffurf
mae modd dadlau bod yr ymson yn ffurf mwy personol na’r dyddiadur hyd yn oed. Dadlennir cudd
feddyliau’r galon mewn ymson a gwir deimladau rhywun. Meddyliwch am yr ymson fel mynedfa i feddyliau
person arall a bod y meddyliau hynny yn cyfathrebu’n uniongyrchol â ni. Cofiwch gall yr ymson fod yn wir
neu’n ffug. Yr elfen bersonol sy’n ganolog yn yr ymson, y ‘monolgue intérieur’. Yn ôl un beirniad mae
‘angen meddwl am y llais yn siarad ag ef ei hun i esbonio’i amgylchfyd, ei emosiynau, ei deimladau, i
ddisgrifio’r hyn a wêl ac a deimla.’ ‘Buan wedyn’ meddai yr un beirniad ‘y sylweddolir nad oes gan
ysgrifennu naratifol ddim llawer o le mewn ymson.’ Un o’r pethau mwyaf nodweddiadol am yr ymson yw tôn
llais a chywair yr iaith. Ystyriwch sut mae eich llais mewnol yn siarad yn eich pen chi ac mi welwch fod llais
yr ymson yn debyg. Caiff ei ysgrifennu yn llais y person cyntaf unigol ac mae yn yr amser presennol. O
ganlyniad addas yw’r defnydd o iaith lafar ac ebychiadau – dyma un ffordd o gyfleu naturioldeb sy’n
angenrheidiol mewn ymson. Cofiwch hefyd fod ymson da yn amlygu gwir deimladau a deisyfiadau’r
ymsonwr gan adlewyrchu cyflwr cymeriad ar foment benodol.
Pwrpas ymson yw nodi llif meddwl yr unigolyn yn y foment honno.
Mae angen
● Ysgrifennu yn y presennol (person cyntaf unigol), 'Dyma fi’n eistedd ar y trên'
● Defnyddio berfau’r presennol, gwelaf, teimlaf.
● Disgrifio teimladau, 'O! Dw i wedi darganfod y gwir o’r diwedd!'
● Defnyddio’r synhwyrau ac ebychiadau i greu awyrgylch.
● Atalnodi’n addas – ebychnod (!), gofynnod (?), ‘Pwy a wyr?’, ‘Pam fi ?’
● Defnyddio cymariaethau, ansoddeiriau a throsiadau.
Geirfa:
Arhosaf
Cyrrhaeddaf
Dyfaraf (I regret)
Ydw i’n dyfaru hynny? (do I regret that?)
Cymeraf
Aroglaf
Syllaf (I stare)
Dechreuaf
Dihangaf
Siaradaf
Dechreuaf
Ofnaf
Disgwylaf
Ymlwybraf
Prin y gallaf credu (I can hardly believe)