Escrito por estudiantes que aprobaron Inmediatamente disponible después del pago Leer en línea o como PDF ¿Documento equivocado? Cámbialo gratis 4,6 TrustPilot
logo-home
Document preview thumbnail
Vista previa 2 fuera de 5 páginas
Examen

TGAU Cymraeg Llenyddiaeth "Y Ferch Wrth y Bar"

Document preview thumbnail
Vista previa 2 fuera de 5 páginas

TGAU Cymraeg Llenyddiaeth "Y Ferch Wrth Y Bar"

Vista previa del contenido

Sefydlwyd Clwb Ifor Bach yng Nghaerdydd ym 1963 gan Gymdeithas Clwb Cymraeg
Caerdydd fel clwb cymdeithasol cyfrwng Cymraeg. Enwyd y clwb ar ôl Ifor Bach sef
Ifor ap Cadifor neu Ifor Meurig, Arglwydd Senghennydd yn y ddeuddegfed ganrif.




Y Ferch wrth y Bar yng Nghlwb Ifor

gan Rhys Iorwerth



Yn fan hyn, aeafau’n ôl,
yn ddifaddau o feddwol,
fe’i gwelais; estynnais stôl.

Ordrais beint ar draws y bar
a’i gwylio, yn llawn galar,
yn ei sgert trwy’r mwg sigâr.

Yn ei llygaid tanbaid hi
roedd ’na gefnfor o stori,
a hyder a direidi

yn eu llawnder i’n herio,
trwy ryw wyrth, y dôi ein tro
ond a dal i’w lled-wylio...

Ym mrad yr edrychiadau, -
yn sŵn ein dawns ni ein dau,
am ei swyn mi es innau

yn rhy ddedwydd freuddwydiol,
yn ddifaddau o feddwol,
yn fan hyn, aeafau’n ôl.

, TEITL Y GERDD

Mae’r teitl yn dweud wrthym bod pellter rhwng y bardd a’r ferch. Mae hi
“wrth y bar” a nid wrth ei ochr ef. Mae’r ffaith bod y ferch yn ddi-enw yn
atgyfnerthu hyn. Mae’r cyfeiriad at glwb Ifor Bach, sef lle sydd yn gyfarwydd
i Gymry Cymraeg, yn ei wneud hi’n haws i ni uniaethu gyda’r gerdd.

Englyn 1
Hel meddyliau y mae’r bardd am adeg ‘aeafau’n ôl’ pan welodd ferch a wnaeth
argraff arno am ei bod yn ddifaddau o feddwol. Ystyr ffigurol difaddau yw ‘yn
bendant’ neu ‘heb unrhyw amheuaeth’. Nid yw’r ferch yn feddw ond ‘meddwol’, sef
ei bod hi’n cael effaith fel y ddiod gadarn arno – mae’r bardd yn teimlo’n feddw
wrth edrych arni hi.

Englyn 2
Mae’r bardd wedi meddwi ar harddwch y ferch cyn iddo ddechrau yfed. Nawr mae’n
archebu peint ac yn edrych arni trwy’r mwg sigâr. Mae hyn yn dyddio’r gerdd i’r
adeg cyn bod ysmygu wedi’i wahardd mewn llefydd cyhoeddus ac yn ein hatgoffa o’r
geiriau ‘aeafau’n ôl’, sy’n golygu bod blynyddoedd wedi mynd heibio ers
y cyfarfyddiad hwn. Mae'r bardd yn drist – ydy e’n llawn galar oherwydd ei fod yn
gwybod fod merch fel hon tu hwnt i’w gyrraedd? Neu – ydy e’n dyfaru peidio â
siarad gydag hi? Ydy e’n dyfaru na wnaeth e achub y cyfle i siarad gyda hi? (achub y
cyfle = to seize the opportunity)

Englyn 3
Wrth edrych yn ei llygaid, mae’n dychmygu fod ganddi ei stori ddiddorol ei hun ond
dim ond cipolwg o’i chymeriad mae’n ei gael. Mae ei “hyder” a’i “direidi” hi’n
gwrthgyferbynnu gyda’r ffordd y mae’r bardd yn dal yn ôl a dim ond yn ei gwylio.



Englyn 4
Yma eto dim ond dal i’w lled-wylio y mae ef, sef rhyw hanner gwylio tra bod mwy o
her yn ei hymarweddiad hi. Ni does ganddo’r hyder i edrych yn syth i’w llygaid; dim
ond ‘lled-wylio’ mae e’n gwneud Mae’r geiriau “trwy ryw wyrth” eto’n awgrymu nad
yw’r bardd yn meddwl fod ganddo fawr o obaith cael hon yn gariad – byddai angen
gwyrth; breuddwyd gwrach fyddai hi yn ei farn ef. (breuddwyd gwrach=wishful
thinking)

Información del documento

Estudio
Año escolar
2
Subido en
28 de noviembre de 2023
Número de páginas
5
Escrito en
2023/2024
Tipo
Examen
Contiene
Preguntas y respuestas
$13.93

¿Documento equivocado? Cámbialo gratis Dentro de los 14 días posteriores a la compra y antes de descargarlo, puedes elegir otro documento. Puedes gastar el importe de nuevo.
Escrito por estudiantes que aprobaron
Inmediatamente disponible después del pago
Leer en línea o como PDF

Seller avatar
Los indicadores de reputación están sujetos a la cantidad de artículos vendidos por una tarifa y las reseñas que ha recibido por esos documentos. Hay tres niveles: Bronce, Plata y Oro. Cuanto mayor reputación, más podrás confiar en la calidad del trabajo del vendedor.
cerijones
4.2
(6)
Vendido
62
Seguidores
41
Artículos
478
Última venta
4 meses hace



Por qué los estudiantes eligen Stuvia

Creado por compañeros estudiantes, verificado por reseñas

Calidad en la que puedes confiar: escrito por estudiantes que aprobaron y evaluado por otros que han usado estos resúmenes.

¿No estás satisfecho? Elige otro documento

¡No te preocupes! Puedes elegir directamente otro documento que se ajuste mejor a lo que buscas.

Paga como quieras, empieza a estudiar al instante

Sin suscripción, sin compromisos. Paga como estés acostumbrado con tarjeta de crédito y descarga tu documento PDF inmediatamente.

Student with book image

“Comprado, descargado y aprobado. Así de fácil puede ser.”

Alisha Student

Preguntas frecuentes